Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru adolygiad ar y cyd Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB), a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2013.

 

Canfu’r adroddiad ar y cyd:

  • nad oedd trefniadau llywodraethu a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd yn mynd i’r afael yn ddigonol â’r bwlch rhwng y ward a’r Bwrdd;
  • nad oedd trefniadau llywodraethu rheolaidd o fewn y Bwrdd Iechyd wedi rhoi digon o sylw i reoli heintiau;
  • bod effeithiolrwydd y Bwrdd wedi cael ei beryglu’n sylweddol gan fethiant yn y berthynas waith rhwng rhai uwch arweinwyr yn y sefydliad; ac
  • nad oedd gan y Bwrdd gyda’i gilydd y capasiti na’r gallu i ddarparu lefelau priodol o waith craffu mewn perthynas â chyflenwi gwasanaethau.

 

Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a sut mae mynd i’r afael a hwy.

 

Gwnaeth y Pwyllgor waith monitro agos ynghylch gweithredu’r argymhellion yn ei adroddiad o fis Rhagfyr 2013, gan dderbyn diweddariadau ysgrifenedig a llafar ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ac ystyried adroddiadau pellach gan yr Archwilydd Cyffredinol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Rhoddodd y gwaith monitro hwn y cyfle i’r Pwyllgor ystyried sut y mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gael ei roi o dan fesurau arbennig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mehefin 2015. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod y cyfnod mesurau arbennig yn debygol o bara tan fis Hydref 2017 o leiaf.

 

Argymhellodd y Pwyllgor yn ei Adroddiad Etifeddiaeth y dylai’r pwyllgor sy’n ei olynu fonitro cynnydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y cyfnod o fesurau arbennig, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau, a’i fod yn ystyried cymryd tystiolaeth lafar bellach gan y Bwrdd Iechyd yng ngwanwyn 2017.

 

Argymhellodd y Pwyllgor yn ei Adroddiad Etifeddiaeth y dylai’r pwyllgor sy’n ei olynu ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion yn adroddiad mis Chwefror 2016 ‘Materion ehangach sy’n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr’ ac yn mynd ar drywydd y gwaith o weithredu’r camau cysylltiedig yn rheolaidd.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2013

Dogfennau