P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig yw safon Aur y 21ain Ganrif. Rhaid i Gymru, fel cenedl, fod ar flaen y gad o ran cynnig y safon hon. Rydym ni, y rhai a lofnodwyd isod, wedi ein brawychu gan y ffaith na chynigir llawdriniaeth robotig i ddynion yng Nghymru sydd â chanser y prostad, er ei bod yn cael ei chynnig i BOB dyn yn Lloegr, gydag o leiaf 40 o leoliadau yn cynnig y driniaeth hon, tra bod yn rhaid i ddynion yng Nghymru dalu miloedd o bunnoedd (rhwng £13-15,000 fel arfer) i gael y driniaeth hon yng nghyfleusterau’r GIG yn Lloegr. Yn amlwg, ni all nifer o ddynion yng Nghymru fforddio hyn. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru ynghyd â Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i ddatrys y sefyllfa gwbl annheg hon a’r diffyg difrifol o ran adnoddau hanfodol yn y GIG yng Nghymru yn ddi-oed. Mae’n hanfodol bod y dechnoleg hon, Safon Aur y 21ain Ganrif, yn cael ei chynnig i ddynion yng Nghymru. Nid yw’n iawn bod technoleg o’r fath ar gael mewn mannau eraill a bod yn rhaid i ddynion o Gymru dalu i gael budd ohoni mewn cyfleuster y GIG yn Lloegr.

 

Prif ddeisebydd:  Yr athro Kevin Davies MBE

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 16 Gorffennaf 2013

 

Nifer y llofnodion : 2090

 

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/07/2013