Ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE

Ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE.

Diben yr ymchwiliad yw ystyried safle cyfansoddiadol Cymru yn yr UE, ac yn benodol, sut y caiff Cymru ei chynnwys yn y drefn o wneud penderfyniadau ar lefel yr UE, yn hytrach na chynnal trafodaeth fwy cyffredinol ynghylch manteision ac anfanteision aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r UE, a gwneud argymhellion yn hyn o beth.

 

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

  • Clywed tystiolaeth arbenigol ar sut y caiff buddiannau Cymru o ran y meysydd datganoledig, eu cynrychioli ar hyn o bryd yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE;
  • Ystyried a yw'r trefniadau presennol yn galluogi Cymru i gael digon o lais yn yr UE;
  • Ystyried sut y caiff buddiannau Cymru eu hymgorffori yn yr 'Adolygiad o’r Cydbwysedd o ran Cymhwysedd rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd' a gaiff ei gynnal ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU; a
  • Gwneud argymhellion, os yn briodol, ynghylch sut y caiff buddiannau Cymru o ran y meysydd datganoledig, eu hystyried yn yr UE.

 

Mae'r Pwyllgor yn ymgynghori â rhanddeiliaid a sefydliadau allweddol, a bydd yn clywed tystiolaeth lafar yn yr haf.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2013

Dogfennau