P-04-482 Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i rhoi wybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol

P-04-482 Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i rhoi wybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu system genedlaethol i osod hysbysfyrddau cyhoeddus mawr (tua 5x4 troedfedd fel enghraifft) ym mhob awdurdod lleol a ward etholiadol Cymru, yn rhoi gwybod yn glir i bawb pwy yw eu Cynghorwyr ac Aelodau Cynulliad lleol, ac yn cynnwys gwybodaeth glir am sut, ble a phryd y gellir cysylltu a chyfarfod â hwy i gyd, a gwybodaeth reolaidd a diweddar am ble a phryd y cynhelir holl gyfarfodydd y cyngor lleol.

Mae gwir angen i bobl gael gwybod pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol ar bob lefel, gyda hysbysfyrddau sy’n cynnwys gwybodaeth glir ac eglur wedi’u lleoli’n ganolog ym mhob awdurdod lleol a ward etholiadol Cymru. Gellid hefyd ystyried rhoi oriau a lleoliadau cymorthfeydd, a chyfarfodydd y cyngor o bosibl, i gael eu safoni ledled Cymru (e.e. 1-3pm ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis mewn canolfannau cymunedol lleol ledled Cymru fel enghraifft gyffredinol) fel y gall pobl ryngweithio a chysylltu â’u cynrychiolwyr yn fwy effeithiol. Bydd hyn i gyd yn annog dinasyddion Cymru i ymwneud yn fwy â democratiaeth eu gwlad a’u cymunedau.

Prif ddeisebydd:  Cymru Sofren

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 14 Mai 2013

 

Nifer y llofnodion : 11

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/05/2013