Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon

Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon

Y cylch gorchwyl

 

Roedd y Pwyllgor yn canolbwyntio yn benodol ar chwaraeon, ond o fewn cyd-destun ehangach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn fwy cyffredinol.

 

Archwiliwyd y meysydd canlynol mewn mwy o fanylder:

 

  • I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn cyflawni’r nodau a amlinellwyd yn y Rhaglen Lywodraethu, yn y cynllun gweithredu Creu Cymru Egnïol ac yn Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru o ran lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon;
  • I ba raddau y mae setiau data ac ystadegau ar gael ar gyfer mesur lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon, yn enwedig rhai a gaiff eu dadgyfuno yn ôl meysydd cydraddoldeb a grwpiau economaidd-gymdeithasol;
  • Y cyfleoedd a’r rhwystrau y mae gwahanol grwpiau o bobl yn eu hwynebu o ran cymryd rhan mewn chwaraeon, gan gynnwys yn ôl meysydd cydraddoldeb a grwpiau economaidd-gymdeithasol;
  • Beth yw’r cysylltiadau rhwng rhaglenni ar gyfer datblygu chwaraeon yng Nghymru a mentrau eraill Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol; ac
  • Effaith y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, Cwpan Ryder a digwyddiadau proffil uchel a llwyddiannau eraill ym maes chwaraeon yng Nghymru ar lefelau cyfranogi yng Nghymru.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2013

Dogfennau