P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG
P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG
Rydym yn
cydnabod cyfraniad cadarnhaol gwasanaethau caplaniaeth ysbytai o ran darparu
gofal ysbrydol o fewn y GIG yng Nghymru ac yn cydnabod y gwaith aruthrol y
mae’r gwasanaeth caplaniaeth yn y GIG yn ei ddarparu.
Mae’r gwasanaeth hwn yn
chwarae rhan bwysig yn lles ysbrydol cleifion a staff y GIG, nid yn unig i’r
rheini sydd â chysylltiad crefyddol ond hefyd i eraill nad oes ganddynt unrhyw
gysylltiad â grŵp crefyddol. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth Cymru i barhau â’i ymrwymiad i ariannu gwasanaethau
caplaniaeth ysbytai ac i ehangu manteision gwasanaethau caplaniaeth i leoliadau
gofal eraill, gan gynnwys lleoliadau gofal sylfaenol a chymdeithasol.
Prif ddeisebydd:
Jim Stewart
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor: 16 Ebrill 2013
Nifer y llofnodion: 1077
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/04/2013