P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu cysylltiad
rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin
Cymru.
Mae angen mawr am linell reilffordd gyflym uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i
orsaf drenau Caerdydd Canolog (ac i orllewin Cymru) fel bod y gwasanaethau a’r ddarpariaeth briodol ar gael yn ein Maes
Awyr Cenedlaethol ar gyfer ymwelwyr cenedlaethol a rhyngwladol. Mae gorsaf
reilffordd yn y Rhws eisoes, sy’n llai na milltir o’r maes
awyr. Mae’n
gyfle na ddylid ei golli i estyn y llinell i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd fel
y gall teithwyr o bob rhan o’r byd neidio yn syth ar ôl glanio ar drên sy’n mynd â nhw i brifddinas Cymru a thu hwnt i
hynny.
Prif ddeisebydd: Cymru Sofren
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 5 Mawrth 2013
Nifer y llofnodion: 35
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Dogfennau