Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg

Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg

Mae Aelodau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg a gyhoeddwyd ar 8 Hydref 2012. Mae cylch gorchwyl ein hymchwiliad fel a ganlyn:

 

Mae'r Pwyllgor yn bwriadu archwilio:

 

  • gweithredoedd Llywodraeth Cymru i'w sicrhau ei hun bod fframweithiau gwneud penderfyniadau cymeradwy ar waith ar gyfer Byrddau Draenio yng Nghymru;
  • rôl Llywodraeth Cymru o ran gweithio â Chil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen;
  • dyfodol Byrddau Draenio Mewnol yng Nghymru;
  • rôl gweision sifil a pham na chafodd pryderon eu codi'n gynt;
  • presenoldeb awdurdodau lleol ar fyrddau a chyrff cyhoeddus;
  • methodoleg Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer archwilio cyrff cyhoeddus bach, yn enwedig ei dull o archwilio cyfrifon Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg ar gyfer 2010-11.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/04/2013

Dogfennau