Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau

Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau.

 

Cynhaliwyd yr adolygiad mawr diwethaf o'r gyfundrefn cofrestru a datgan buddiannau yn 2014. Argymhellodd yr adolygiad hwnnw y dylid cyflwyno system o ddatgan buddiannau perthnasol er mwyn gwella tryloywder, yn ogystal â gwneud rhai newidiadau i gategorïau fel ymddiriedolaethau dall a rhanddaliadau.

 

Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i adolygu a yw'r trefniadau ar gyfer cofrestru a datgan buddiannau yn parhau'n addas i'r diben ar draws Busnes y Senedd.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2023

Dogfennau

Ymgynghoriadau