Gwaith dilynol ar argymhellion Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd

Gwaith dilynol ar argymhellion Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd

Fel rhan o’i flaenraglen waith, bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd yn ymgymryd â gwaith dilynol ar argymhellion Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon  y Bumed Senedd.

 

Ymchwiliad Pwyllgor y Bumed Senedd

Gwaith Pwyllgor y Chweched Senedd

Unigrwydd ac Unigedd  (adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhafyr 2017)

Fel rhan o’i waith ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 11 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd.

 

Yn dilyn llythyr gan Weinidogion â chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol ar 11 Hydref 2022, ymatebodd y Pwyllgor i ofyn eto am wybodaeth am yr argymhellion. Ymatebodd y Gweinidogion ar 31 Ionawr 2023.

Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal (adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2018)

Fel rhan o’i waith ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, ysgrifennodd y Pwyllgor at y  Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 11 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd.

 

Yn dilyn llythyr gan Weinidogion â chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol ar 11 Hydref 2022 ymatebodd y Pwyllgor i ofyn eto am wybodaeth am yr argymhellion. Ymatebodd y Gweinidogion ar 31 Ionawr 2023.

Atal Hunanladdiad (adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018)

Fel rhan o’i waith ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 11 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd. Ymatebodd y Dirprwy Weinidog ar 26 Awst 2022.

Gweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc (adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019)

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd. Ymatebodd y Gweinidog ar 26 Medi 2022.

Gwasanaethau endosgopi  (adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019)

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd. Ymatebodd y Gweinidog ar 24 Awst 2022.

 

Ym mis Hydref 2022, lansiodd y Pwyllgor ymchwiliad dilynol i wasanaethau endosgopi.

 

Ar 10 Mawrth 2023 ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ymatebodd y Gweinidog ar 25 Ebrill 2023.

Deintyddiaeth yng Nghymru

(adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2019)

Yn dilyn adroddiad Pwyllgor y Bumed Senedd, lansiodd y Pwyllgor ymchwiliad dilynol i ddeintyddiaeth ym mis Gorffennaf 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 15 Chwefror 2023 sy’n cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru.

 

Ymatebodd y Gweinidog i’n hadroddiad ar 18 Ebrill 2023.

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mehefin 2023.

Hepatitis C (adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019)

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd. Ymatebodd y Gweinidog ar 30 Awst 2022.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor eto ar 26 Medi 2022 i ofyn am ragor o wybodaeth. Ymatebodd y Gweinidog ar 21 Tachwedd 2022 a 3 Chwefror 2023 .

Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu (adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019)

Fel rhan o’i waith ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 11 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd.

 

Yn dilyn llythyr gan Weinidogion â chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol ar 11 Hydref 2022 ymatebodd y Pwyllgor i ofyn eto am wybodaeth am yr argymhellion. Ymatebodd y Gweinidogion ar 31 Ionawr 2023.

Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - Y Bumed Seneddg (adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020)

Fel rhan o’i waith ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 11 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd.

 

Yn dilyn llythyr gan Weinidogion â chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol ar 11 Hydref 2022 ymatebodd y Pwyllgor i ofyn eto am wybodaeth am yr argymhellion. Ymatebodd y Gweinidogion ar 31 Ionawr 2023.

 

Mae’r Pwyllgor hefyd yn ymgymryd â gwaith parhaus ar effaith pandemig COVID-19, a'i reolaeth, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion  (adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021)

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 8 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd. Ymatebodd y Gweinidogion ar 2 Medi 2022.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/02/2023