Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf)

Cyflwynwyd y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 10 Ionawr 2023.

 

Yn ôl teitl hir y Bil, ei ddiben yw darparu ar gyfer lefelau gwasanaeth lleiaf mewn cysylltiad â chamau streicio gan undebau llafur, mewn perthynas â gwasanaethau penodol.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

Gwrthodwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Ebrill 2023.


Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Chwefror 2023

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 159KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 9 Chwefror 2023.

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 30 Mawrth 2023 (PDF 40.4KB).

 

Gosododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 117KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) ar 30 Mawrth 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (180KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) ar 30 Mawrth 2023. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 24 Ebrill 2023.

 

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/02/2023