P-06-1322 Dylid ailddyrannu'r £30 miliwn sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer terfynau 20mya, i'r GIG, sydd mewn argyfwng, yn enwedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Darren Jones, ar ôl casglu 293 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwastraffu dros £30 miliwn ar gynllun i ostwng
cyfyngiadau cyflymder o 30mya i 20mya, a hynny ar adeg pan fo adran Damweiniau
ac Achosion Brys Wrecsam newydd gyhoeddi'r amseroedd aros gwaethaf yng Nghymru.
Mae’r GIG mewn argyfwng ledled y wlad, ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr mewn cyflwr enbydus. Er enghraifft, mae meddygon teulu mewn
swyddfeydd ym Manceinion yn ymdrin â phroblemau ym meddygfa Hillcrest. Nid yw
Llywodraeth Cymru wedi gosod ei blaenoriaethau yn y drefn gywir. Ni fydd
gostwng terfynau cyflymder o 30mya i 20mya yn arbed cymaint o fywydau ag y
byddai sicrhau bod gennym GIG sy’n gweithio!
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae
gostwng cyfyngiadau cyflymder i lefel boenus o 20mya yn golygu y bydd beicwyr
yn gallu goddiweddyd ceir. Fel rhywun sy’n beicio ar y ffyrdd yn aml, byddwn yn
teimlo’n fwy diogel gyda cheir yn fy mhasio ar gyflymder o 30mya yn hytrach na
gyrru’n rhy agos at gefn fy meic ar gyflymder o 20mya. Ac fel gyrrwr, mae fy
nghar yn fwy effeithlon ar gyflymder o 30mya nag ydyw ar gyflymder o 20mya. Mae
Llywodraeth Cymru yn anwybyddu materion difrifol fel cyflwr Bwrdd Iechyd Betsi
Cadwaladr. Hefyd, amseroedd aros am ambiwlansys, cael eich gweld mewn adrannau
Damweiniau ac Achosion Brys, prinder meddygon teulu. Mae'r rhestr yn un faith. Mae
meddygfa Hillcrest yn enghraifft wych o fethiant. Mae’r bwrdd iechyd wedi
cymryd yr awenau, ac mae meddygon locwm yn gwneud galwadau ffôn o Fanceinion,
yn hytrach na bod yn bresennol yn y feddygfa, yn barod i weld pobl! Mae gan
Lywodraeth Cymru cyn lleied o gysylltiad â’r cyhoedd a’r problemau gwirioneddol
y maent yn eu hwynebu; mae angen dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn awr. Mae
Llywodraeth Cymru yn parhau i gael gwared ar fannau gwyrdd yn Wrecsam a’r
cyffiniau, at ddibenion codi tai, ac yn pennu terfynau cyflymder gwirion (fel y
parth 50mya ar yr A483), ac eto nid yw’n fodlon mynd i’r afael â phroblemau
gyda’r gwasanaethau brys! Dylid ailddyrannu’r cyllid hwn NAWR, fel mater o
frys!!!
Yn ei gyfarfod ar 13/03/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y
mater wedi cael ei drafod yn helaeth yn y Senedd, a bod mwyafrif clir o'r
Aelodau wedi cymeradwyo’r penderfyniadau a wnaed. Yn sgil hyn, cytunodd yr
Aelodau na allant fynd â'r ddeiseb ymhellach fel Pwyllgor, a chaewyd y ddeiseb
gan ddiolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 13/03/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Wrecsam
- Gogledd Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae
proses Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/02/2023