P-06-1321 Diogelu canolfannau hamdden a phyllau nofio rhag gorfod cau yn ystod yr argyfwng ynni presennol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan James Candy, ar ôl casglu cyfanswm o 7,687
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae pyllau nofio a chanolfannau hamdden ledled y wlad dan fygythiad wrth
i’r argyfwng ynni effeithio ar gymunedau ledled y genedl. Mae’r cyfleusterau
hyn yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl Cymru ac maent yn hanfodol i lesiant
y wlad.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Senedd a Llywodraeth Cymru
i gydnabod pa mor fregus yw sefyllfa pyllau nofio drwy ddarparu pecyn o gymorth
ariannol wedi’i neilltuo y tu hwnt i’r Setliad Terfynol ar gyfer Llywodraeth
Leol i sicrhau bod pyllau nofio’n gallu aros ar agor.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae 40 y cant o ardaloedd cyngor mewn perygl o golli eu canolfan(nau)
hamdden neu o weld llai o wasanaethau yn eu canolfan(nau) hamdden cyn 31 Mawrth
2023.
Mae tri chwarter (74 y cant) o ardaloedd cyngor wedi’u nodi’n ‘anniogel’,
sy’n golygu bod perygl y bydd canolfannau hamdden yn cau a/neu yn cynnig llai o
wasanaethau cyn 31 Mawrth 2024 (data gan UK Active: https://www.ukactive.com/news/forty-per-cent-of-council-areas-at-risk-of-leisure-centre-and-swimming-pool-closures-and-restrictions-before-april-without-immediate-support/)
Mae 61 y cant o blant yn ysgolion cynradd Cymru am gael mwy o gyfleoedd i
nofio (Arolwg gan Chwaraeon Cymru o chwaraeon mewn ysgolion yn 2022)
Dim ond 42 y cant o blant ym mlynyddoedd 3-6 yng Nghymru sy’n gallu nofio
25m heb gymorth (Ffynhonnell: Archwiliad o ddarparwyr gan Nofio Cymru, 2022)
Mae Cyngor Powys yn bwriadu defnyddio arian wrth gefn i gadw pyllau ar agor
(https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-64010393)
Mae 80 y cant o aelodau Community Leisure UK mewn sefyllfa fregus yn
ariannol (https://communityleisureuk.org/news/sos-plea-to-chancellor/)
Mae 234,000 o oedolion yng Nghymru am gael mwy o gyfleoedd i nofio (Arolwg
Cenedlaethol Cymru 2021).
Yn ei gyfarfod ar 27/02/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er ei
bod yn siomedig na fydd cyllid yn cael ei glustnodi ar gyfer canolfannau
hamdden, roedd y deisebydd wedi teimlo bod cyfarfod diweddar â'r Gweinidog yn
ddefnyddiol, a bydd nawr yn canolbwyntio ei ymgyrch barhaus â Llywodraeth y DU.
Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r
deisebydd am amlygu’r mater pwysig hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 27/02/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae
proses Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/02/2023