NDM8118 Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog
NDM8118 Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog
NDM8118 - Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cyd-gyflwynwyr:
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Siân Gwenllian
(Arfon)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn cofio ac yn cydnabod cyfraniad pawb sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd
Arfog ac sy’n gwasanaethu ynddynt yn awr, yn enwedig y rhai a wnaeth yr aberth
eithaf.
2.
Yn mynegi ei diolchgarwch i’r Lluoedd Arfog yng Nghymru am eu cyfraniad parhaus
i fywyd Cymru.
3.
Yn croesawu ac yn talu teyrnged i’r gefnogaeth y mae sefydliadau’r trydydd
sector yn ei darparu i’n cymuned Lluoedd Arfog yng Nghymru.
4.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy
ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth bwrpasol i’n cymuned Lluoedd Arfog a thrwy
gydweithio ac ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/11/2022