P-06-1312 Helpu i wella ansawdd dwr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg

P-06-1312 Helpu i wella ansawdd dwr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael George Cowburn, ar ôl casglu cyfanswm o 1,612 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae Afon Wysg yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mewn Ardal Cadwraeth Arbennig. Er hynny, gan fod ansawdd y dŵr yn Afon Wysg mor wael, mae 88 y cant o'i chyrff dŵr yn methu â chyrraedd eu targedau. Gellid gosod targedau i wella’r sefyllfa. (Er enghraifft: 50 y cant erbyn diwedd 2023, 25 y cant erbyn 2024 ac ati). Mae eogiaid, brithyllod y môr a llysywod i gyd yn dirywio’n ddifrifol. Mae tyfiant chwyn Ranunculin wedi diflannu bron yn llwyr o’r afon. Mae pobl sy'n nofio'n wyllt yn yr afon mewn perygl o ddal heintiau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ac eto, beth sy’n digwydd i atal y dirywiad hwn? Mae Dŵr Cymru yn gorff dielw, a hynny ers 20 mlynedd. Gan nad oes angen talu difidendau i randdeiliaid, gellid bod wedi buddsoddi’r arian hwn mewn cynlluniau i uwchraddio systemau carthffosiaeth ar hyd a lled Cymru. Mae’n eironig bod dŵr o afon Wysg yn cael ei bwmpio o Felin Prioress i Gronfa Ddŵr Llandegfedd ar gyfer ei yfed yn ne Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru i fod i orfodi safonau ansawdd dŵr, ond mae’n cael ei ystyried yn aneffeithiol yn gyffredinol. Mae llygredd amaethyddol a dŵr ffo pridd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at y broblem. Mae newid hinsawdd ynghyd â’r cynnydd o ran sychder a llifogydd hefyd yn creu cymhlethdodau. Un o amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella’r amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ond mae’n amlwg nad yw hyn yn digwydd. Rydym yn galw ar y Senedd i sicrhau bod Dŵr Cymru yn buddsoddi digon o arian i uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg i helpu’r Afon Wysg i ddychwelyd i’w hen ogoniant.

 

 

A picture of a stream

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/03/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac o ystyried y gwaith a wnaed eisoes gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar lygredd amaethyddol yn fwy cyffredinol, a bwriad Dŵr Cymru i uwchraddio'r systemau carthffosiaeth yn Aberhonddu, Llan-ffwyst a Brynbuga, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/01/2023.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Mynwy
  • Dwyrain De Cymru

 

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2023