P-06-1309 Dylai Llywodraeth Cymru gynnal refferendwm cyn ehangu maint y Senedd
P-06-1309 Dylai Llywodraeth Cymru gynnal refferendwm cyn ehangu maint y Senedd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard Taylor, ar ôl casglu cyfanswm o
1,633 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Llafur Cymru, mewn cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, yn cynnig
cynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 60 i 96. Ni nododd y naill blaid na'r
llall y nifer hwn yn eu maniffestos mewn etholiadau diweddar. Dylid gofyn i
bobl Cymru drwy refferendwm a ydynt am ehangu maint y Senedd, gan y bydd y
cynnig hwn yn arwain at ddiffyg cyfranoldeb o ran cynrychiolaeth. Mae
gwasanaethau cyhoeddus a'r GIG yng Nghymru yn dioddef yn enbyd ac ni ddylai
ehangu sy'n costio miliynau i drethdalwyr Cymru fod yn flaenoriaeth i
Lywodraeth Cymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/01/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb a dywedodd Joel James ei fod o blaid cynnal refferendwm.
Nododd Aelodau eraill fod nifer o bwyllgorau’r Senedd wedi ystyried y mater yn
ofalus iawn, ac roeddent i gyd wedi argymell bod angen cynyddu nifer yr Aelodau
o’r Senedd er mwyn medru craffu’n effeithiol ar Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno Bil
Diwygio’r Senedd yn y flwyddyn newydd a bydd hwn eto’n gyfle i’r Senedd drafod
y materion hyn a chraffu arnynt. O ystyried hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/01/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2022