Adroddiad monitor amseroedd aros y GIG

Adroddiad monitor amseroedd aros y GIG

Ar 26 Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnwys pum uchelgais allweddol i leihau rhestrau aros. Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn monitro cynnydd yn y gwaith o gyflawni’r uchelgeisiau hynny, ac mae wedi cytuno i gyhoeddi adroddiadau monitro bob tymor:

>>>> 

>>> Amseroedd aros y GIG – adroddiad monitro (Hydref 2022)

Ar ôl adolygu'r adroddiad monitro, cododd y Pwyllgor faterion gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod sesiwn graffu gyffredinol, ac ysgrifennodd ato â rhagor o gwestiynau dilynol. Ymatebodd y Gweinidog ar 15 Rhagfyr 2022.

>>> Amseroedd aros y GIG – adroddiad monitro (Chwefror 2023)

Ar ôl adolygu'r adroddiad monitro, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ymatebodd y Gweinidog ar 4 Ebrill 2023.

>>> Amseroedd aros y GIG – adroddiad monitro (Mehefin 2023)

Ar ôl adolygu'r adroddiad monitro, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Pwyllgor hefyd Gonffederasiwn GIG Cymru a chynrychiolwyr byrddau iechyd i roi tystiolaeth lafar ar faterion yn ymwneud ag amseroedd aros.

 

>>> Amseroedd aros y GIG – adroddiad monitro (Tachwedd 2023)

 

Yn 2022, cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad i effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, gan gynnwys yr adroddiad ac argymhellion ac ymateb Llywodraeth Cymru ar dudalen yr ymchwiliad.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/10/2022

Dogfennau