Diwygio’r Dreth Gyngor

Diwygio’r Dreth Gyngor

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal ymchwiliad i ddiwygio’r dreth gyngor, gan ganolbwyntio’n benodol ar y cynigion polisi a deddfwriaethol sydd wedi’u nodi yn nogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, Treth Gyngor Decach, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2022. Bydd y Pwyllgor yn archwilio’r effaith y gallai’r cynigion ei chael ar gyllid a threfniadau gweinyddu llywodraeth leol, a’r potensial ar gyfer symleiddio fframwaith disgowntiau a gostyngiadau’r dreth gyngor.

 

Yn benodol, bydd yr ymchwiliad yn ystyried y materion a ganlyn:

>>>> 

>>>Effaith bosibl ailbrisior dreth gyngor a diwygio bandiaur dreth gyngor ar gyllid a threfniadau gweinyddu llywodraeth leol.

>>>Manteision ac anfanteision posibl ailbrisio eiddo yn rheolaidd ar drefniadau gweinyddu llywodraeth leol, a’r effaith ar y rhai sy’n gyfrifol am dalu’r dreth gyngor.

>>>Effeithiolrwydd y fframwaith ar gyfer disgowntiau ac eithriadau mewn perthynas â’r dreth gyngor, a sut y gellid datblygu a gwella’r system.

>>>Yr achos dros newid Cynllun Gostyngiadaur Dreth Gyngor, syn rhoi cymorth ir aelwydydd incwm isel sydd fwyaf agored i niwed, a’r posibiliadau o ran gwella’r system.

<<< 

 

 

Math o fusnes: Busnes Cynnar

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/10/2022

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau