Gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol

Gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol

Mae cylch gwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys edrych ar bolisi a deddfwriaeth, a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol.

Y rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru yw Arolygiaeth Gofal Cymru. Ei rôl yw cofrestri, arolygu a chymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.

Ar 30 Tachwedd 2022, fe wnaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynnal sesiwn sganio’r gorwel gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i archwilio materion allweddol sy’n effeithio ar ofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol. Yn dilyn y sesiwn:

 

>>>> 

 

>>>Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu sylw at y negeseuon clir a di-flewyn ar dafod ynghylch breuder y sector gofal cymdeithasol.

 

>>>Ysgrifennodd y Pwyllgor at AGC i fynd ar drywydd materion a drafodwyd yn ystod y sesiwn. Ymatebodd AGC ar 5 Ionawr 2023.

 

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/12/2022

Dogfennau