NDM8091 Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat
NDM8091 Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat
NDM8091 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rhenti
cynyddol yn ychwanegu at bwysau ar aelwydydd ledled Cymru wrth i'r argyfwng
costau byw waethygu ymhellach.
2. Yn nodi bod
gwerthoedd rhent cyfartalog Cymru wedi cynyddu i £926 y mis ym mis Mehefin
2022, sef cynnydd 15.1 y cant o'i gymharu â Mehefin 2021.
3. Yn nodi'r niferoedd
cynyddol ar restrau aros am dai cymdeithasol, a diffyg stoc tai cymdeithasol.
4. Yn nodi bod diffyg
darpariaeth o dai priodol a bod pobl yn wynebu
digartrefedd pan fyddant yn cael eu troi allan.
5. Yn credu bod yn
rhaid gwarchod tenantiaid ar frys y gaeaf hwn.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau brys i:
a) rhewi rhenti yn y
sector rhentu preifat;
b) gosod moratoriwm ar
droi pobl allan.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod
Llywodraeth y DU yn methu â deall ei chyfrifoldebau ynghylch mynd i’r afael â’r
argyfwng costau byw, ac yn galw ar i Lywodraeth y DU lynu wrth ei hymrwymiad i
godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, gan gynnwys cynyddu cyfraddau’r lwfans
tai lleol yng Nghymru.
Yn cydnabod:
a) bod tenantiaid
cymdeithasol yn cael eu diogelu rhag codiadau rhent y gaeaf hwn;
b) o 1 Rhagfyr bydd y
Ddeddf Rhentu Cartrefi yn cynnig rhagor o amddiffyniad i denantiaid rhag cael
eu troi allan;
c) bod mwy na
25,000 o bobl sydd wedi cael eu hunain yn ddigartref wedi cael eu helpu i gael
llety dros dro ers dechrau’r pandemig.
Yn croesawu:
a) y £6 miliwn
ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol y gellir ei ddefnyddio i helpu i dalu
ôl-ddyledion rhent neu i ddarparu gwarant rent;
b) y buddsoddiad o £65
miliwn mewn rhaglen gyfalaf ar gyfer llety trosiannol i gynyddu nifer y tai
cymdeithasol, gan sicrhau bod gan ragor o bobl le y gellir ei alw’n
gartref.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Dileu pwynt 6 a rhoi
yn ei le:
Yn
nodi'r symiau cynyddol y mae awdurdodau lleol yn eu gwario
ar lety dros dro.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r nifer
cynyddol o hysbysiadau troi allan adran 21 sy'n cael eu cyflwyno gan
landlordiaid preifat.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) gweithio gydag
awdurdodau lleol i wella'r broses o hyrwyddo'r cynllun benthyciadau
cartref gwag er mwyn dychwelyd rhagor o dai gwag i fod yn gartrefi;
b) adolygu a
chyflymu'r broses o wneud cais cynllunio er mwyn galluogi datblygwyr i gyrraedd
targedau adeiladu tai;
c) adolygu pa gamau y
gellir eu cymryd i drosi lleoedd gwag uwchben unedau manwerthu i fod yn dai
fforddiadwy, wedi'u lleoli'n ganolog.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/10/2022