NDM8086 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digwyddiadau mawr
NDM8086 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digwyddiadau mawr
NDM8086 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Strategaeth
Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru.
2. Yn credu bod
digwyddiadau mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru
i'r byd.
3. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod â'r cyfleoedd
hyn i Gymru.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth gan ganolbwyntio ar ddyhead,
creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru.
Strategaeth
Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian Gwenllian
(Arfon)
Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff diwylliant a threftadaeth
Cymru a'r Gymraeg eu hymwreiddio'n bellach yn y strategaeth, gan gynnwys
digwyddiadau mawr cynhenid fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a'n bod yn arddel
ddefnyddio Cymru yn hytrach na Wales yn rhyngwladol.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/10/2022