Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2023-24

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2023-24

Archwilio Cymru yw nod masnachu dau endid cyfreithiol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Mae gan bob un ei bwerau a'i ddyletswyddau penodol ei hun:

>>>> 

>>>Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn archwilio ac yn adrodd ar gyrff cyhoeddus Cymru.

>>>Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu staff ac adnoddau eraill ar gyfer gwaith yr Archwilydd Cyffredinol, ac yn monitro ac yn rhoi cyngor i’r Archwilydd Cyffredinol.

<<< 

Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y cyd osod eu hamcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd, fel sy’n ofynnol o dan Adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol Sefydlog 20.22, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar eu hamcangyfrif, a gosod adroddiad gerbron y Senedd sy’n cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn briodol, ar ôl ymgynghori â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ei waith craffu blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (PDF, 886KB) ar 22 Tachwedd 2022.

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/09/2022

Dogfennau