Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
Cafodd y Bil Technoleg Enetig (Bridio
Manwl) (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 25 Mai 2022.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi ei fod yn Fil i wneud darpariaeth ynghylch rhyddhau a marchnata
planhigion ac anifeiliaid sy’n cael eu bridio’n fanwl, ac asesiadau risg sy’n
ymwneud â hwy, a marchnata bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhyrchir o blanhigion ac
anifeiliaid o’r fath; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Gwrthodwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Technoleg Enetig (Bridio
Manwl) yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2023.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Rhagfyr 2022
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 149KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 8 Rhagfyr
2022.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
a'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno
adroddiad arno erbyn 16 Ionawr 2023
(PDF 42.2 KB)
Llythyr
gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Llywydd a
Chadeirydd y Pwyllgor Busnes – 12 Ionawr 2023 (PDF 104KB) (Gwaith wedi’i
gwblhau).
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
164KB) ar 16 Ionawr 2023.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/12/2022
Dogfennau