P-06-1295 Dylid cynnal arolwg cyhoeddus ar leihau'r terfyn cyflymder diofyn CYN iddo ddod i rym

P-06-1295 Dylid cynnal arolwg cyhoeddus ar leihau'r terfyn cyflymder diofyn CYN iddo ddod i rym

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mark Baker, ar ôl casglu cyfanswm o 1,646 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gynnal arolwg cyhoeddus ar y newid hwn gan y bydd yn effeithio ar bawb! Nid oes unrhyw dystiolaeth brofedig y bydd yn achub bywydau neu’n lleihau llygredd. Mae tystiolaeth i gefnogi y bydd yn cynyddu'r allyriadau sy'n cael eu rhoi i'r aer gan nad yw ceir wedi'u cynllunio i gael eu gyrru ar y cyflymder hwn! Mae modurwyr bob amser yn cael eu targedu ac mae'n hen bryd i gerddwyr fod yn atebol i ryw raddau! Mae pobl Cymru yn byw mewn democratiaeth, dylid cynnal arolwg cyhoeddus ar y cynnig hwn.Credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gynnal arolwg cyhoeddus ar y newid hwn gan y bydd yn effeithio ar bawb! Nid oes unrhyw dystiolaeth brofedig y bydd yn achub bywydau neu’n lleihau llygredd. Mae tystiolaeth i gefnogi y bydd yn cynyddu'r allyriadau sy'n cael eu rhoi i'r aer gan nad yw ceir wedi'u cynllunio i gael eu gyrru ar y cyflymder hwn! Mae modurwyr bob amser yn cael eu targedu ac mae'n hen bryd i gerddwyr fod yn atebol i ryw raddau! Mae pobl Cymru yn byw mewn democratiaeth, dylid cynnal arolwg cyhoeddus ar y cynnig hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Maent eisoes wedi cynnal arolwg o grŵp mawr ar hyn a phleidleisiodd y mwyafrif yn ei erbyn!

Eu hunig dystiolaeth yw damcaniaeth ac achlust. Nid oes ganddynt ddim prawf o gwbl i gefnogi eu honiadau y bydd 20mya yn achub bywydau. Yr hyn y bydd yn ei wneud yw gorfodi ceir i stopio a chychwyn yn fwy aml ac yn y pen draw byddant yn cronni allyriadau mewn un ardal. Ni allaf ond dychmygu eu bod wedi seilio'r dystiolaeth ffug hon ar eu hadroddiad traffordd ar leihau i 50mya - NID YW'N GWEITHIO!!!!!

Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy i addysgu cerddwyr i groesi ar groesfannau dynodedig yn unig a gosod rhwystrau ar hyd ymyl y palmentydd i'w hatal rhag cerdded allan i'r ffordd unrhyw le y dymunant!

Rydym ni fel modurwyr yn mynd yn fwyfwy rhwystredig am fod yn ysglyfaeth hawdd. O ran beicwyr, gyda'r rheol hon ar waith byddant yn reidio'n gyflymach na cheir. Rwyf wedi gweld hyn eisoes yn yr ardaloedd prawf.

Rhowch lais inni ar hyn ar unwaith!

 

 

A 20mph sign on a pole

Description automatically generated with low confidence

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 10/10/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac er i'r aelodau nodi rhwystredigaeth bersonol y deisebwyr, nodwyd bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu i awdurdodau lleol ddiwygio'r terfyn cyflymder cenedlaethol rhagosodedig o 20mya i adlewyrchu amgylchiadau lleol. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr aelodau i ddiolch i'r deisebydd, cau'r ddeiseb ac awgrymu bod y deisebydd bellach yn cysylltu â'i awdurdod lleol.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/10/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/09/2022