Bil drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Bil drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith yn ystyried y Bil drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (‘y Bil drafft’), y bwriedir ei gyflwyno yn yr hydref.

 

Mae’r Bil drafft yn gwneud darpariaethau i wahardd eitemau plastig untro sy’n sbwriel cyffredin.

 

Bydd y Bil drafft yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys am ddim) i ddefnyddiwr yng Nghymru y cynhyrchion plastig un-defnydd sydd wedi'u rhestru yn yr atodlen i'r Bil. Mae crynodeb o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynigion hefyd wedi cael ei gyhoeddi.

 

Cylch gorchwyl - mae'r Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>A oes angen Bil i gyflwyno gwaharddiad ar eitemau plastig untro sy’n cael eu taflu fel sbwriel yn aml;

>>>Manteision ac anfanteision defnyddio Bil, yn hytrach nag is-ddeddfwriaeth, i gyflwyno gwaharddiad;

>>>A fydd darpariaethau’r Bil drafft yn cyflawni bwriad y polisi;

>>>A oes rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil drafft (gan gynnwys Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020);

>>>A yw'r pwerau yn y Bil drafft i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth yn briodol;

>>>A oes canlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil drafft;

>>>Goblygiadau ariannol y Bil drafft (gan gynnwys i fusnesau a defnyddwyr).

<<< 

 

Adrodiadd

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei Adroddiad ar Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (PDF 296KB) ar 10 Hydref 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF 197KB)  i adroddiad y Pwyllgor ar 25 Hydref 2022.

 

 

Casglu tystiolaeth

Lansiodd y Pwyllgor ymgynghoriad ar y Bil drafft ar 15 Awst 2022, a daeth yr ymgynghoriad i ben ar 5 Medi 2022. Mae'r holl ymatebion wedi'u cyhoeddi y dudalen ymgynghori.

 

Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd, a gyda rhanddeiliaid ym mis Medi 2022.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/08/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau