Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen

Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen

Cyhoeddwyd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen ym mis Mehefin 2012. Daeth yr adroddiad i’r casgliad y gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniadau gwallus i brynu hen Westy River Lodge yn 20017 am £1.6 miliwn a llofnodi cytundeb prydles yn 2009 gyda chorff o’r enw Powys Fadog, ac nad oedd y penderfyniadau hyn yn cynnig gwerth da am arian. Yng ngoleuni hyn, a’r tebygolrwydd cynyddol na fyddai Powys Fadog yn gallu cyflawni amodau’r cytundeb prydles, nododd yr adroddiad fod penderfyniad Llywodraeth Cymru yn 2010 i werthuso’r opsiynau ar gyfer gwaredu’r eiddo yn ddarbodus ac yn angenrheidiol. Hefyd, canfu’r adroddiad y bu Llywodraeth Cymru yn araf o ran ymateb i bryderon mewnol allanol ynghylch uniondeb a gwerth am arian ei benderfyniadau blaenorol.

Nid oedd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnwys unrhyw argymhellion penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn pryderu’n fawr am ei ganfyddiadau a chytunodd i gynnal ymchwiliad i’r materion y cododd yr adroddiad, gan roi ystyriaeth benodol i benderfynu pa wersi y gallai Llywodraeth Cymru eu dysgu o’r bennod.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2013

Dogfennau