Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ysgolion

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ysgolion

Cyflwynwyd y Bil Ysgolion (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 11 Mai 2022.

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai diben y Bil yw "gwneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio Academïau; ynghylch ariannu ysgolion ac addysg leol; ynghylch presenoldeb plant yn yr ysgol; ynghylch rheoleiddio sefydliadau addysgol annibynnol; ynghylch camymddwyn gan athrawon; ac at ddibenion cysylltiedig."

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sydd fel rheol yn dod o fewn cymhwysedd Senedd Cymru.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Gorffennaf 2022

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 89.5KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 7 Gorffennaf 2022.


Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 17 Tachwedd 2022 (PDF 40.1KB)

Ar 20 Medi 2022, cytunodd (PDF 40.9KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 1 Rhagfyr 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 150KB) ar 24 Tachwedd 2022.

 

Cyhoeddodd y  Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad (PDF 135KB) ar 28 Tachwedd 2022.

Cadarnhaodd (PDF 277KB) Llywodraeth Cymru na fydd y Bil yn mynd yn ei flaen ac na fydd yn ymateb i adroddiadau'r pwyllgorau ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2022

Dogfennau