Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical

 

Inquiry5

 

A picture containing person, indoor

Description automatically generated

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwil i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei hymrwymiad yn ei Rhaglen Lywodraethu i 'ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal'.

 

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad o'r enw ‘Os nad nawr, yna pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal’ ac adroddiad cryno ar 24 Mai 2023.

Ar 5 Gorffennaf cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 291KB) i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 12 Gorffennaf 2023.

Roedd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 14 Medi, ar gyfer sesiwn graffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad. Cyn y sesiwn, ysgrifennodd (PDF 217KB) y Pwyllgor  at Lywodraeth Cymru. Cyn y sesiwn, cawsom ymateb (PDF 1MB). Yn dilyn y sesiwn, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu (PDF 165KB) at y Dirprwy Weinidog i fynd ar drywydd rhai meysydd. Cafwyd ymateb (PDF 275KB) ym mis Rhagfyr. Ysgrifennodd (PDF 849KB) y Pwyllgor hefyd at Gofal Cymdeithasol Cymru ynghylch defnyddio staff asiantaeth mewn gwasanaethau plant, a derbyniwyd ymateb (PDF 275KB).

 

Mae Ymchwil y Senedd wedi llunio papur briffio ystadegol ar blant sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru.

 

Cefndir yr ymchwiliad

Bu cynnydd o 35 y cant mewn plant sy'n derbyn gofal rhwng 2011 a 2021:

>>>> 

>>>Yn 2011, roedd 5,410 o blant mewn gofal yng Nghymru.

>>>Erbyn 2021 roedd 7,265 o blant yng ngofal awdurdodau lleol Cymru.

<<< 

 

Yn 2011, am bob 10,000 o enedigaethau yng Nghymru, daeth 43 o fabanod newydd-anedig yn destun achos gofal ymhen pythefnos ar ôl eu geni. Erbyn 2018 roedd y ffigur hwn wedi mwy na dyblu i 83 o fabanod am bob 10,000 o enedigaethau.

 

Mae plant sy'n derbyn gofal yn uchel ar yr agenda gwleidyddol yn dilyn ymrwymiad personol y Prif Weinidog i leihau nifer y plant mewn gofal. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau perthnasol a phellgyrhaeddol, gan gynnwys i “Edrych ar ddiwygiadau radical i’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal”.

 

Nododd ymgynghoriad y Pwyllgor yn ystod haf 2021 ar ei flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd hefyd nifer o faterion sy’n berthnasol i blant sydd wedi bod mewn gofal:

>>>> 

>>>Cymorth a lleoliadau i blant mewn gofal

>>>Llety a chymorth i'r rhai sy'n gadael gofal

>>>Gwasanaethau eirioli plant

>>>Y gweithlu gofal cymdeithasol plant

<<< 

 

Cylch Gorchwyl

Gwnaethom edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i "archwilio diwygio gwasanaethau presennol yn radical ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal".

 

Nod ein hymchwiliad oedd nodi’r prif flaenoriaethau ar gyfer meysydd polisi lle mae angen newid ac a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau plant a phobl ifanc.

 

Gwnaethom ystyried blaenoriaethau ar gyfer diwygio radical yn y tri cham canlynol o'r system ofal:

>>>> 

>>>Cyn gofal: Lleihau nifer y plant yn y system ofal yn ddiogel

>>>Mewn gofal: Gwasanaethau o safon a chefnogaeth i blant mewn gofal

>>>Ôl-ofal:  Cefnogaeth barhaus pan fydd pobl ifanc yn gadael gofal

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

Yn ystod diwedd 2022, cynhaliodd y Pwyllgor gyfres o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ledled Cymru gyda phlant sydd â phrofiad o ofal a rhieni geni y tynnwyd plentyn oddi wrthynt. Mae adroddiad cryno o'r sesiynau hyn wedi cael ei gyhoeddi.

 

Ar ddechrau 2023 clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar a chynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid, cyhoeddwyd adroddiad cryno o'r digwyddiadau hyn i randdeiliad.

 

Ar 24 Chwefror sefydlodd swyddogion y Senedd stondin yn y digwyddiad 'Proud To Be Me' i siarad â'r rhai oedd yn bresennol am ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ‘Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical’. Gofynnwyd i'r rhai oedd yn bresennol ysgrifennu syniadau ar gyfer diwygio radical i'r system ofal ar gardiau post a'u postio mewn blwch pleidleisio. Mae crynodeb o'r ymatebion a gafwyd wedi cael ei gyhoeddi.

 

Ymgynghoriad

Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 06 Hydref 2022. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Chwefror 2023. Mae'r holl ymatebion wedi'u cyhoeddi.

 

Y camau nesaf

Bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor o fewn 6 wythnos i'r dyddiad cyhoeddi. Unwaith y bydd y Pwyllgor wedi ystyried yr ymateb, bydd dadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei threfnu.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau