Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical

Inquiry4

 

A picture containing person, indoor

Description automatically generated

 

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei hymrwymiad yn ei Rhaglen Lywodraethu i 'ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal'.

 

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad o'r enw ‘Os nad nawr, yna pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal’ ac adroddiad cryno ar 24 Mai 2023.

 

Mae Ymchwil y Senedd wedi llunio papur briffio ystadegol ar blant sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru.

 

Cefndir yr ymchwiliad

Bu cynnydd o 35 y cant mewn plant sy'n derbyn gofal rhwng 2011 a 2021:

>>>> 

>>>Yn 2011, roedd 5,410 o blant mewn gofal yng Nghymru.

>>>Erbyn 2021 roedd 7,265 o blant yng ngofal awdurdodau lleol Cymru.

<<< 

 

Yn 2011, am bob 10,000 o enedigaethau yng Nghymru, daeth 43 o fabanod newydd-anedig yn destun achos gofal ymhen pythefnos ar ôl eu geni. Erbyn 2018 roedd y ffigur hwn wedi mwy na dyblu i 83 o fabanod am bob 10,000 o enedigaethau.

 

Mae plant sy'n derbyn gofal yn uchel ar yr agenda gwleidyddol yn dilyn ymrwymiad personol y Prif Weinidog i leihau nifer y plant mewn gofal. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau perthnasol a phellgyrhaeddol, gan gynnwys i “Edrych ar ddiwygiadau radical i’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal”.

 

Nododd ymgynghoriad y Pwyllgor yn ystod haf 2021 ar ei flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd hefyd nifer o faterion sy’n berthnasol i blant sydd wedi bod mewn gofal:

>>>> 

>>>Cymorth a lleoliadau i blant mewn gofal

>>>Llety a chymorth i'r rhai sy'n gadael gofal

>>>Gwasanaethau eirioli plant

>>>Y gweithlu gofal cymdeithasol plant

<<< 

 

Cylch Gorchwyl

Rydym yn edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i “ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal”.

 

Nod ein hymchwiliad oedd nodi’r prif flaenoriaethau ar gyfer meysydd polisi lle mae angen newid ac a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau plant a phobl ifanc.

 

Gwnaethom ystyried blaenoriaethau ar gyfer diwygio radical yn y tri cham canlynol o'r system ofal:

>>>> 

>>>Cyn gofal: Lleihau nifer y plant yn y system ofal yn ddiogel

>>>Mewn gofal: Gwasanaethau o safon a chefnogaeth i blant mewn gofal

>>>Ôl-ofal:  Cefnogaeth barhaus pan fydd pobl ifanc yn gadael gofal

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

Yn ystod diwedd 2022, cynhaliodd y Pwyllgor gyfres o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ledled Cymru gyda phlant sydd â phrofiad o ofal a rhieni geni y tynnwyd plentyn oddi wrthynt. Mae adroddiad cryno o'r sesiynau hyn wedi cael ei gyhoeddi.

 

Ar ddechrau 2023 clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar a chynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid, cyhoeddwyd adroddiad cryno o'r digwyddiadau hyn i randdeiliad.

 

Ar 24 Chwefror sefydlodd swyddogion y Senedd stondin yn y digwyddiad 'Proud To Be Me' i siarad â'r rhai oedd yn bresennol am ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ‘Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical’. Gofynnwyd i'r rhai oedd yn bresennol ysgrifennu syniadau ar gyfer diwygio radical i'r system ofal ar gardiau post a'u postio mewn blwch pleidleisio. Mae crynodeb o'r ymatebion a gafwyd wedi cael ei gyhoeddi.

 

Ymgynghoriad

Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 06 Hydref 2022. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Chwefror 2023. Mae'r holl ymatebion wedi'u cyhoeddi.

 

Y camau nesaf

Bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor o fewn 6 wythnos i'r dyddiad cyhoeddi. Unwaith y bydd y Pwyllgor wedi ystyried yr ymateb, bydd dadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei threfnu.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau