Ymchwiliad i Grwpiau Trawsbleidiol

Ymchwiliad i Grwpiau Trawsbleidiol

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal ymchwiliad i Lobïo ar hyn o bryd, a chytunodd i gynnal ymchwiliad cydamserol i Grwpiau Trawsbleidiol, o ystyried y gorgyffwrdd rhwng y pynciau dan sylw.

 

Cafodd Grwpiau Trawsbleidiol eu hadolygu ddiwethaf fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Bedwaredd Senedd i lobïo yn 2013.

 

Cytunwyd ar y Rheolau presennol ynghylch gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol drwy benderfyniad y Senedd ym mis Mehefin 2013, gan ddisodli ‘Canllawiau'r Llywydd ar Ffurfio Grwpiau Trawsbleidiol' a wnaed ar 10 Mawrth 2004.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/07/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau