NDM8028 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon
NDM8028 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon
NDM8028 Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod nifer sylweddol
o weithwyr o Gymru yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau a fydd yn cael eu newid
yn sylweddol fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon;
b) pwysigrwydd sicrhau
newid teg i economi ddi-garbon;
c) cynllun peilot
incwm sylfaenol parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried sut y gellid ymestyn y cynllun peilot incwm
sylfaenol i weithwyr yn y diwydiannau hyn er mwyn llywio'r broses o
drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon.
Cyd-gyflwynwyr
Carolyn Thomas (Gogledd
Cymru)
Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy)
Luke Fletcher (Gorllewin De
Cymru)
Cefnogwyr
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2022