NDM8041 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes
NDM8041 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes
NDM8041 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod dros
209,015 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes a bod gan Gymru'r nifer fwyaf o
achosion o ddiabetes yng ngwledydd y DU.
2. Yn mynegi pryder am
y cynnydd cyflym yn y diagnosis o ddiabetes dros yr 20 mlynedd diwethaf.
3. Yn cydnabod effaith
andwyol barhaus pandemig y coronafeirws ar amseroedd aros, mynediad at
wasanaethau, profion diagnostig, atal a gofalu am bobl â diabetes yng Nghymru.
4. Yn cydnabod yr
angen am ymrwymiad o'r newydd i wella canlyniadau i bobl sydd â diabetes ac
sydd mewn perygl o gael diabetes er mwyn cynnal y Fframwaith Gwasanaeth
Cenedlaethol ar gyfer Diabetes.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r datganiad ansawdd ar gyfer diabetes cyn diwedd
mis Gorffennaf ac ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu newydd ar
gyfer diabetes o fewn 12 mis.
Fframwaith
Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod gwaith
ar y gweill i adfer gwasanaethau arferol i bobl â diabetes yn dilyn effaith y
pandemig.
Yn cydnabod yr
ymrwymiad sy'n bodoli o fewn y GIG yng Nghymru i:
a) sicrhau bod pobl yn
cael eu cefnogi i wneud dewisiadau iach sy'n lleihau’r tebygolrwydd y byddant
yn datblygu diabetes math 2;
b) gwneud cynnydd tuag
at gynnig cyfle i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yn ystod y
chwe blynedd diwethaf gael mynediad at wasanaeth lleddfu diabetes; a
c) sicrhau gofal
hygyrch sy'n canolbwyntio ar y claf i bobl â diabetes, yn ogystal â defnyddio
technoleg ac addysg i'w helpu i reoli eu cyflwr yn well.
Yn nodi bod gwaith ar
y gweill gyda rhanddeiliaid i ddatblygu datganiad ansawdd diabetes i'w gyhoeddi
yn yr hydref.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 4 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu y gallai
buddsoddi mewn mesurau ataliol arwain at leihad sylweddol mewn diabetes math 2,
ac arwain at arbedion mawr i'r GIG.
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi cynllun atal diabetes sy'n canolbwyntio ar ddeiet a
gweithgarwch corfforol, gyda chyllid priodol.
Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o gymorth seicolegol
arbenigol ar gael fel rhan annatod o'r cymorth a roddir i'r rhai
sy'n byw gyda diabetes.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/06/2022