Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch

Inquiry5

A person sitting at a desk

Description automatically generated with medium confidence

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i Gymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ysgrifenedig (PDF 3.1MB) ar 29 Mawrth 2023.
Ar 26 Mai cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 266KB) i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher 14 Mehefin 2023.

Cefndir yr ymchwiliad

Codwyd mater iechyd meddwl mewn addysg uwch gan nifer o randdeiliaid fel rhan o ymgynghoriad y Pwyllgor i’r blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd. Roedd hefyd yn fater a ystyriwyd fel rhan o waith craffu'r Pwyllgor ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a nododd y Pwyllgor eu bwriad i ailedrych ar y mater. Yn ei gyfarfod ar 29 Mawrth 2022, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad yn edrych ar effeithiolrwydd y cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles myfyrwyr; yn ogystal ag effeithiau parhaus y pandemig a newidiadau i arferion addysgu a dysgu.

 

Cylch Gorchwyl

>>>> 

Maint yr angen

 

>>>Y sefyllfa bresennol o ran iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch, ac unrhyw heriau penodol maent yn eu hwynebu o ran eu hiechyd meddwl a'u gallu i gael cymorth.

>>>A oes heriau gwahanol o ran iechyd meddwl ar gyfer gwahanol grwpiau o fyfyrwyr, ac a oes unrhyw grwpiau o fyfyrwyr mewn addysg uwch y mae iechyd meddwl gwael yn effeithio'n anghymesur arnynt.

>>>Yr effaith, os o gwbl, a gafodd COVID-19 yn gyffredinol ar iechyd meddwl a lles myfyrwyr ac effaith y pandemig ar y lefelau a'r math o gymorth a ddarperir gan y sector addysg uwch.

 

Adnabod a darpariaeth

>>>Pa mor effeithiol yw darparwyr addysg uwch wrth hyrwyddo ethos o iechyd meddwl, a llesiant da cyffredinol i bob myfyriwr, ac a yw hyn yn rhan annatod o'r profiad dysgu ac o ryngweithio â staff.

>>>Pa mor effeithiol yw’r sector o ran sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hadnabod yn gynnar os oes arnynt angen cymorth unigol wedi’i dargedu.

>>>Pa mor effeithiol y mae'r sector addysg uwch a'r GIG yn gweithio gyda'i gilydd i roi’r cymorth iechyd meddwl cywir i fyfyrwyr unigol ar yr adeg ac yn y lleoliad y mae ei angen arnynt.

>>>A oes problemau penodol o ran mynediad at gymorth iechyd meddwl y GIG, er enghraifft effaith newid meddygon teulu yn amlach; bod llawer o fyfyrwyr ar oedran lle maent yn trosglwyddo o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc i wasanaethau iechyd meddwl oedolion; unrhyw broblemau o ran rhannu data.

>>>Pa mor effeithiol yw gwaith y sector addysg ôl-16 yn fwy eang i hybu iechyd meddwl da, yn enwedig o ran pontio.

 

Polisïau, deddfwriaeth a chyllid Llywodraeth Cymru

>>>Pa mor effeithiol y mae trefniadau polisi, ariannu a rheoleiddio Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector yn cefnogi iechyd meddwl myfyrwyr mewn addysg uwch, ac a oes mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud.

>>>Yng nghyd-destun y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), sut olwg fyddai ar ddull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant mewn addysg ôl-16, a beth fyddai rôl darparwyr addysg uwch a gofal iechyd.

>>>Sut y dylai'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr mewn addysg uwch, ac yn y sector addysg drydyddol yn fwy eang.

 

Argymhellion ar gyfer newid

>>>A oes unrhyw argymhellion y dylai'r Pwyllgor eu gwneud.

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar ym mis Medi 2022. Mae rhagor o wybodaeth am sesiynau tystiolaeth unigol ar gael o dan y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.

Ar ddechrau mis Medi, lansiwyd arolwg wedi’i anelu at fyfyrwyr a graddedigion diweddar o Gymru i gyflwyno eu barn. Daeth 254 o ymatebion i law, ac mae crynodeb o’r ymatebion wedi’i gyhoeddi (PDF 1MB).

Yn nhymor yr hydref, cynhaliwyd grwpiau ffocws i drafod yr ymchwiliad yn fanwl gyda myfyrwyr. Fel rhan o'r gwaith ymgysylltu hwn, cawsom wybod am brofiadau myfyrwyr presennol a diweddar o gymorth lles; y prif heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu; effaith iechyd meddwl ar eu profiadau dysgu a phrofiadau addysg uwch; a pha welliannau yr hoffent eu gweld. Cyhoeddwyd (PDF 258KB) crynodeb o'r trafodaethau.

Ymgynghoriad

Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 12 Gorffennaf 2022. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 07 Tachwedd 2022.  Mae'r holl ymatebion wedi'u cyhoeddi.  

 

Cymorth

Mae’r arolwg hwn yn ymwneud â phwnc sensitif. Os hoffech gael cymorth ar ôl llenwi’r arolwg, rydym yn argymell y dylech gysylltu â’r elusennau canlynol:

Childline: 0800 1111
Meic Cymru: 0808 80 23456
Mind Cymru: 0300 123 33 93 neu
info@mind.org.uk
Hafal : 01792 816 600/832 400 neu e-bostiwch
hafal@hafal.org
Beat Cymru: 0808 801 0433
Llinell Wrando a Chyngor Cymunedol (CALL): 0800 13 27 37 neu tecstiwch ‘help’ i 81066
Samariaid: 116 123

 Bydd yr elusennau hyn yn rhoi’r cyfle i chi siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/07/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau