NDM8015 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
NDM8015 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni'r gwelliannau a addawyd ym
Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
2. Yn credu bod y
penderfyniad i symud y bwrdd iechyd o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn
amhriodol.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod trefn mesurau arbennig ddiwygiedig i roi'r
arweiniad a'r adnoddau sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd i fynd i'r afael â
methiannau, a darparu'r gofal iechyd o ansawdd uchel y mae pobl Gogledd Cymru
yn ei haeddu.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw am gomisiynu adolygiad annibynnol i ystyried manteision posibl disodli
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â strwythurau newydd i ddarparu gofal
iechyd yn y gogledd, oherwydd ei broblemau cronig.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2022