Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)

Cyflwynwyd y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd (y Bil) yn Nhŷr Cyffredin ar 11 Mai 2022.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben yw galluogi gweithredu Pennodau caffael cytundebau masnach rydd y Deyrnas Unedig ag Awstralia a Seland Newydd, a gwneud darpariaeth arall mewn perthynas â hwy.

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fydd Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Gwrthodwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2023.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2022

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 112 KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 25 Mai 2022.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 29 Medi 2022 (PDF 41.9KB).

Ar 20 Medi 2022, cytunodd (PDF 42.5 KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 1 Rhagfyr 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 189KB) ar 23 Tachwedd 2022. Ymatebodd (PDF 182KB) Llywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2022

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/05/2022