Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Cyhoeddodd Archwilydd
Cyffredinol Cymru adroddiad
ym mis Ebrill 2022 yn seiliedig ar adolygiad Archwilio Cymru o Daliadau
Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
Dywed Archwilio
Cymru fod Taliadau Uniongyrchol yn fuddiol ar gyfer annog annibyniaeth pobl,
ond bod awdurdodau lleol yn amrywio yn y ffordd y maen nhw’n rheoli’r taliadau
a bod hyn yn arwain at anghysonderau yn y gwasanaethau ac anhawster o ran asesu
gwerth am arian yn gyffredinol.
Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn trafod yr Adroddiad hwn yn haf 2022.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2022