NDM8009 Dadl Plaid Cymru - Cyllid ar ôl Brexit
NDM8009 Dadl Plaid Cymru - Cyllid ar ôl Brexit
NDM8009 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu nad yw
ffrydiau ariannu ar ôl Brexit yn gweithio i Gymru.
2. Yn gresynu at y ffaith
y bydd Cymru £1 biliwn ar ei cholled o ran cyllid na chafwyd arian yn ei le
dros y tair blynedd nesaf.
3. Yn credu bod
trefniadau newydd sy'n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU wedi
tanseilio gallu Llywodraeth Cymru i gynllunio gwariant yn strategol er budd
Cymru a'i chymunedau.
4.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i adfer goruchwyliaeth ddemocrataidd Cymru dros y
ffrydiau ariannu ar ôl Brexit drwy eu datganoli i'r Senedd.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod
ymrwymiad Llywodraeth y DU i rymuso cymunedau lleol yng Nghymru drwy’r
agenda ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin.
2. Yn croesawu'r
cadarnhad a gafwyd dro ar ôl tro gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru ar ei
cholled o ran cyllid ar ôl ymadael â'r UE.
3.
Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwersi'n cael eu
dysgu o'r ffordd y gweinyddir cronfeydd yr UE o dan gynlluniau'r cronfeydd
strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd fel bod buddsoddiad gan y ddwy lywodraeth yn
y dyfodol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i economi Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/05/2022