NDM7964 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus
NDM7964 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus
NDM7964 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) mai Llywodraeth
Cymru oedd y cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan gydnabod y
bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi;
b) bod cynlluniau
pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac, ers
blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau i ddadfuddsoddi;
c) bod partneriaeth
bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu buddsoddiad o ddaliadau Rwsia yn ôl
a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen, gan ddangos felly ei bod yn
bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau hyn;
d) bod Aelodau'r Senedd
wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd pensiwn eu hunain oddi wrth
danwydd ffosil;
e) pe bai cynlluniau
pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dadfuddsoddi, Cymru fyddai'r wlad
gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i ddarparwyr cronfeydd yr angen i
greu cynhyrchion buddsoddi di-danwydd ffosil.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i
ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â
thargedau sero net presennol y sector cyhoeddus.
Cefnogwyr
Carolyn Thomas (Gogledd
Cymru)
Cefin Campbell (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Heledd Fychan (Canol De
Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd)
Luke Fletcher (Gorllewin De
Cymru)
Peredur Owen Griffiths
(Dwyrain De Cymru)
Sarah Murphy (Pen-y-bont ar
Ogwr)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/05/2022