Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Bil Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi trosglwyddo'r Bil i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

>>>> 

>>>sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol;

>>>dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig (neu os nad oes undeb llafur cydnabyddedig) cynrychiolwyr eraill o'u staff, wrth bennu eu hamcanion llesiant a chyflawni'r amcanion hynny o dan adran 3(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 (Deddf 2015);

>>>dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr drwy'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wrth gyflawni eu hamcanion llesiant o dan adran 3(2)(b) o Ddeddf 2015;

>>>diwygio adran 4 o Ddeddf 2015 drwy roi 'gwaith teg' yn lle 'gwaith addas' yn y nod presennol ynghylch "Cymru lewyrchus";

>>>dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i ystyried defnyddio prosesau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, i bennu amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, ac i gyhoeddi strategaeth gaffael;

>>>gofyniad i gyrff cyhoeddus penodol gyflawni dyletswyddau rheoli contractau er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i ganlyniadau cymdeithasol gyfrifol drwy gadwyni cyflenwi;

>>>rhoi dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiadau mewn perthynas â'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol a’r Ddyletswydd Gaffael.

<<<< 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â’r Bil.

 

Cyfnod Presennol

BillStageAct

 

Daeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn gyfraith yng Nghymru ar 24 Mai 2023.

 

Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Hynt y Bil drwy Senedd Cymru

Mae’r tabl isod yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod yn ystod hynt y Bil drwy Senedd Cymru.

zzz

¬¬¬Dyddiad y Cydsyniad Brenhinol (24 Mai 2023)

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2023.

zzz

 

¬¬¬Ar ôl Cyfnod 4

Ysgrifennodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru (PDF, 60KB) a'r Cwnsler Cyffredinol (PDF, 162KB) at y Llywydd i’w hysbysu na fydden nhw'n cyfeirio y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 114, 111B neu 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

zzz

 

¬¬¬Cyfnod 4

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2023

Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), fel y'i diwygiwd yng nghyfnod 4 (heb ei gadarnhau) PDF 303 KB

zzz

¬¬¬Cyfnod 3 (24 Ionawr – 7 Mawrth 2023)

Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 24 Ionawr 2023.

 

Cynhaliwyd ystyriaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth 2023 i ystyried gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2).

 

Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), fel y'i diwygiwd yng nghyfnod 3  (PDF 162 KB)

 

 

Grwpio Gwelliannau - 3 Mawrth 2023 (PDF 90 KB)

Rhestr o welliannau wedi’u didoli - 1 Mawrth 2023 (PDF 147 KB)

Memorandwm Esboniadol, wedi’i ddiwygio ar ôl Cyfnod 2

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol – 28 Chwefror 2023 (Saesneg yn unig) (PDF 159 KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 24 Chwefror 2023 (PDF 95 KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 23 Chwefror 2023  (PDF 77 KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 23 Chwefror 2023 (PDF 63 KB)

zzz

¬¬¬Cyfnod 2, Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau (30 Tachwedd 2022 – 23 Ionawr 2023)

 

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 30 Tachwedd 2022. Cyhoeddir manylion y gwelliannau a gyflwynwyd i’w hystyried yn y Pwyllgor ar 23 Ionawr 2023.

Cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar 16 Ionawr 2023, o dan Reol Sefydlog 26.21, mai’r drefn ar gyfer trafodion Cyfnod 2 fyddai: Adrannau 1 i 22; Atodlen 1; Adrannau 23 i 24; Atodlen 2; Adrannau 25 i 49; Teitl Hir.

 

 

Grwpio Gwelliannau – 18 Ionawr 2023

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli – 17 Ionawr 2023

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 16 Ionawr 2023

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith– 13 Ionawr 2023

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 12 Ionawr 2023  (PDF, 96KB)

 

 

 

 

 

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 2 yn y Pwyllgor ar 23 Ionawr 2023.

 

Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), fel y’i diwygiwyd yng nghyfnod 2

 

zzz

¬¬¬Penderfyniad Ariannol

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, nododd y Llywydd bod angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd 2022.

zzz

¬¬¬Cyfnod 1 (7 Mehefin 2022 – 29 Tachwedd 2022)

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd 2022. Cytunwyd ar y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ei ddull o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 9 Mehefin 2022. 

 

Crynodeb Bil

 

Ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad

 

Geirfa Ddwyieithog

 

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

9 Mehefin 2022

Trafod y dull craffu ar gyfer Cyfnod 1

Cyfarfod preifat

Cyfarfod preifat

20 Mehefin 2022

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

27 Mehefin 2022

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

4 Gorffennaf 2022

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

11 Gorffennaf 2022

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

3 Hydref 2022

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad ar 18 Tachwedd 2022.

 

Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Rhagfyr 2022.

 

Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

12 Medi 2022

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog

 

 

Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i fod i glywed tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn ei gyfarfod ar 12 Medi 2022. Fodd bynnag, gan fod y Senedd mewn cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines, roedd busnes y Senedd wedi’i ohirio ar y dyddiad hwn. Yn lle'r sesiwn dystiolaeth, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog ar 22 Medi, ac ymatebodd y Dirprwy Weinidog ar 14 Hydref.

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 1.5 MB) ar 17 Tachwedd 2022.


Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Rhagfyr 2022.

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

30 Mehefin 2022

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad (PDF, 1.3MB) ar 18 Tachwedd 2022. Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Rhagfyr 2022.

 

Gohebiaeth

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Chwyddiant yn yr amcangyfrifon o gostau sy’n cyd-fynd â Biliau – 12 Mai 2023 (PDF 144KB)

zzz

¬¬¬Cyflwynwyd y Bil (7 Mehefin 2022)

Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF 333KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF 1,871KB)

 

Datganiad o Fwriad y Polisi (PDF 72KB)

 

Datganiad y Llywydd (PDF 128KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil (PDF 40.6KB)

zzz

 

Manylion cyswllt

Clerc: Rhys Morgan

Ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd CF99 1SN

 

e-bost: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau