NDM8005 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd meddwl plant a'r glasoed
NDM8005 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi effaith y
pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
2. Yn gresynu bod
amseroedd aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda
llai nag un o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau
cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio.
3. Yn mynegi ei
phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o
dan adran 136.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal adolygiad
brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;
b) sicrhau bod
gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac
c) ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau
bwyta yng Nghymru.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi effaith y
pandemig ar iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.
2. Yn cydnabod effaith
y pandemig ar amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r
Glasoed (CAMHS).
3. Yn croesawu ffocws
Llywodraeth Cymru ar helpu gwasanaethau i wella wrth iddynt adfer a gwaith
parhaus gyda phartneriaid i atal dwysáu i argyfwng a darparu ymateb
amlasiantaeth, priodol.
4. Yn nodi adolygiad
Uned Gyflawni’r GIG o CAMHS, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac y disgwylir
ei adroddiad erbyn diwedd 2022.
5. Yn croesawu’r
gwaith i barhau i gyflwyno 111, pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl i oedolion a
phobl ifanc ledled Cymru.
6. Yn nodi
ymgynghoriad presennol Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar
Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru, gyda
rhanddeiliaid allweddol, sy’n cynnwys cwmpasu dichonoldeb Uned Anhwylderau
Bwyta ar gyfer Cymru.
[Os derbynnir
gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian
(Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt (2) ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl
ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn
cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno
cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/05/2022