P-06-1283 Dylid cyflwyno system orfodol o ficrosglodynnu cathod yng Nghymru

P-06-1283 Dylid cyflwyno system orfodol o ficrosglodynnu cathod yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cats Matter, ar ôl casglu 854 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae microsglodynnu yn rhan o fod yn berchennog cyfrifol ar anifeiliaid anwes, ac mae’n arwain at fuddion helaeth i gathod a’u perchnogion. Os yw cath yn mynd ar goll, yn cael ei dwyn neu'n cael ei hanafu, mae mwy o gyfle o ddod o hyd iddi os oes ganddi ficrosglodyn. Mae microsglodion yn fuddiol nid yn unig i gathod a'r perchnogion sy'n eu caru – maent hefyd yn lleddfu’r straen ar y sefydliadau sy'n gorfod ymdrin â chathod nad oes modd eu hadnabod.

Mae elusen Cats Protection yn amcangyfrif bod mwy nag un rhan o bump o’r cathod yng Nghymru heb ficrosglodyn, er gwaethaf yr ymgyrchu di-baid a welwyd ar y mater hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Gwnaethom gyfrannu at y gwaith a wnaed ar Fil y DU, a arweiniodd yn y pen draw at y rheoliadau a gaiff eu cyflwyno yn Lloegr yn 2022, ac rydym yn parhau i weithio gyda DEFRA fel rhanddeiliaid ar y mater hwn. Fodd bynnag, gan fod lles anifeiliaid yn fater sydd wedi’i ddatganoli, yn anffodus, ni fydd y gwaith hwn yn berthnasol i Gymru. Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi ei hymateb, ynghyd â chanlyniadau’r ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd. Hoffem weld y broses hon yn cael ei hymestyn i Gymru, a hynny er mwyn hyrwyddo budd y cathod a’u perchnogion.

 

Hefyd, o ganlyniad i ddeiseb lwyddiannus flaenorol a gyflwynwyd gennym i’r Senedd (P-05-779), Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno system sganio gynhwysfawr, wrth i bob awdurdod lleol yng Nghymru benderfynu sganio’r holl gathod a gesglir. Fodd bynnag, gweithred wirfoddol oedd hon, a gwelwyd gostyngiad mewn rhai ardaloedd ers 2017. Byddem yn ddiolchgar pe bai’r Pwyllgor yn ailedrych ar y mater o sganio.

 

brown and white tabby cat

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 27/06/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y ffaith bod Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26 Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ystyried system orfodol o ficrosglodynnu cathod, ac y bydd newidiadau yn y dyfodol o ran sganio a chronfeydd data yn cael eu hystyried fel rhan o waith parhaus gyda Llywodraeth y DU. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/06/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/06/2022