Lobïo
Ymrwymodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i
adolygu'r sefyllfa o ran lobïo yng Nghymru yn rheolaidd, ac felly mae wedi
cytuno i gynnal ymchwiliad i lobïo a grwpiau trawsbleidiol yn y Chweched
Senedd.
Ar hyn o bryd,
mae gan y Senedd ganllawiau mewn perthynas â lobïo y cytunwyd arnynt drwy
benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn yn 2013, yn ogystal â rheolau mewn perthynas â
grwpiau trawsbleidiol, a gyflwynwyd hefyd yn 2013.
Bu Pwyllgor
Safonau Ymddygiad y Bumed Senedd yn trafod lobïo, ond ni wnaed unrhyw
newidiadau i'r trefniadau presennol. Yn ymchwiliadau blaenorol yn y Senedd, ni
chanfuwyd bod unrhyw broblem benodol o ran lobïo yng Nghymru ar y pryd.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/05/2022
Ymgynghoriadau
- Lobïo (Wedi ei gyflawni)