Lobïo

Lobïo

Ymrwymodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i adolygu'r sefyllfa o ran lobïo yng Nghymru yn rheolaidd, ac felly mae wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i lobïo a grwpiau trawsbleidiol yn y Chweched Senedd.

 

Ar hyn o bryd, mae gan y Senedd ganllawiau mewn perthynas â lobïo y cytunwyd arnynt drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn yn 2013, yn ogystal â rheolau mewn perthynas â grwpiau trawsbleidiol, a gyflwynwyd hefyd yn 2013. 

 

Bu Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Bumed Senedd yn trafod lobïo, ond ni wnaed unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol. Yn ymchwiliadau blaenorol yn y Senedd, ni chanfuwyd bod unrhyw broblem benodol o ran lobïo yng Nghymru ar y pryd.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/05/2022

Ymgynghoriadau