NDM7997 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG

NDM7997 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG

NDM7997 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)  

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn credu nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun digonol i fynd i'r afael ag ôl-groniadau rhestrau aros y GIG yng Nghymru. 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: 

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) 

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi bod cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer gofal a gynlluniwyd, a gyhoeddwyd ar 26 Ebrill, wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â chlinigwyr i sicrhau bod targedau’n heriol ond yn gyraeddadwy. 

2. Yn nodi ymhellach y bydd manylion gweithredol pellach ynghylch sut y bydd uchelgeisiau’r cynllun yn cael eu cyflawni yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau tymor canolig integredig y GIG sydd wrthi’n cael eu hadolygu. 

Trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/05/2022