P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 10,572 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae nyrsys ledled Cymru yn brin o 1,719 o aelodau staff medrus iawn sy'n achub bywydau. Mae hyn yn golygu bod staff nyrsio yn rhoi 34,284 o oriau ychwanegol i GIG Cymru bob wythnos – ac nid yw'n ddigon o hyd. Mae ymchwil yn dangos, os oes llai o nyrsys, mae cleifion 26 y cant yn fwy tebygol o farw, ac, yn gyffredinol, mae hyn yn codi i 29 y cant yn dilyn cyfnodau cymhleth o aros yn yr ysbyty. Dylai Llywodraeth Cymru ehangu Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i ddarparu’r tîm llawn o nyrsys sydd eu hangen yn daer ar y cyhoedd yng Nghymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru gymryd pob cam rhesymol i gynnal lefel benodedig o staff nyrsio. Lefelau staff nyrsio yw nifer y nyrsys, a’u cymysgedd sgiliau, sydd eu hangen i ddarparu gofal sensitif i gleifion. At hynny, rhaid i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau roi gwybod i’r cyhoedd am y lefelau staff nyrsio ar unrhyw ward sy’n cael ei gynnwys o dan Adran 25B.

Pan basiwyd y gyfraith am y tro cyntaf, roedd Adran 25B yn berthnasol i wardiau oedolion meddygol a llawfeddygol acíwt yn unig. Ar 1 Hydref 2021, cafodd hyn ei ymestyn i wardiau plant. Rydym am iddo fod yn berthnasol ym mhob lleoliad lle darperir gofal nyrsio, gan ddechrau gyda wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl a nyrsio cymunedol.

Dilynwch ein hymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a chymerwch ran #ForTheFullTeam.

Gwefan: https://forthefullteam.com

Twitter: https://twitter.com/RCNWales

Facebook: https://www.facebook.com/RCNWales.

 

A picture of a hospital

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/10/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd pa mor falch oedd y deisebwyr o ddod â’r materion i ddadl yn y Senedd ac i gryfder teimladau’r cyhoedd a gweithwyr nyrsio proffesiynol gael ei amlygu.

 

O ganlyniad i’r ddadl, cytunodd y Pwyllgor ei fod wedi mynd â’r ddeiseb cyn belled ag y gall, a dymunodd yn dda i’r Coleg Nyrsio Brenhinol â’i ymgyrchoedd yn y dyfodol, a chaeodd y ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/06/2022.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Cwm Cynon
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/05/2022