P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr
P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Annwen Hughes, ar ôl casglu cyfanswm o 2,704
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn dilyn misoedd o drafodaethau cadarnhaol, tynnodd y Llywodraeth allan o'r
cynllun i adeiladu ffordd osgoi Llanbedr, Gwynedd, yn seiliedig ar wybodaeth
ddiffygiol eu hadroddiad.
Nid yn unig bydd atal y ffordd osgoi yn andwyol i'r amgylchedd wrth i
gannoedd o geir barhau i giwio yn y pentref ond mae'r penderfyniad hefyd yn
ergyd anferth i unrhyw obeithion o ddatblygu swyddi safon uchel ar y maes awyr
- sef prif obaith yr ardal yma o Feirionnydd o ran rhoi gwaith da i'n pobl
leol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/03/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd rwystredigaeth y gymuned leol. Fodd
bynnag, o ystyried bod adroddiad yr Adolygiad Ffyrdd yn dweud yn glir na fydd
cynllun ffordd osgoi Llanbedr yn mynd rhagddo a bod Llywodraeth Cymru wedi nodi
ei pharodrwydd i weithio gyda Chyngor Gwynedd a bod cyfarfodydd wedi’u trefnu
gyda’r gymuned leol i ystyried dulliau eraill o ymdrin â’r anawsterau, cytunodd
y Pwyllgor nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud a chytunodd i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/05/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyfor Meirionnydd
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae
proses Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/05/2022