Gweithredu diwygiadau addysg

Gweithredu diwygiadau addysg

Inquiry2

 

A picture containing person, indoor, person

Description automatically generated

 

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn monitro’r broses o weithredu dau ddiwygiad addysg allweddol wrth iddynt gael eu cyflwyno drwy gydol y Chweched Senedd.

 

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu dwy Ddeddf addysg o bwys mawr a basiwyd yn y Senedd ddiwethaf:

>>>> 

>>>Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

>>>Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

<<< 

 

Mae'r cwricwlwm newydd yn gwyro oddi wrth ddull gweithredu rhagnodedig y cwricwlwm cenedlaethol blaenorol. Bwriedir i’r Cwricwlwm i Gymru gael ei arwain at ddiben yn hytrach na bod yn seiliedig ar gynnwys. Bydd gan ysgolion hyblygrwydd i ddylunio eu cwricwla eu hunain, o fewn fframwaith cenedlaethol eang.

 

Mae’r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2022. Yn ôl y gyfraith, caiff ei gyflwyno mewn ysgolion uwchradd erbyn mis Medi 2023 fan bellaf ar gyfer Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8. Fodd bynnag, mae gan ysgolion uwchradd y dewis i’w gyflwyno ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2022 os ydynt yn barod i wneud hynny (bydd bron i hanner yr ysgolion uwchradd yn dechrau addysgu'r cwricwlwm newydd o fis Medi 2022 ymlaen). Caiff ei gyflwyno, wedyn, i grŵp blwyddyn hŷn ychwanegol – flwyddyn ar ôl blwyddyn – hyd nes iddo gyrraedd Blwyddyn 11 yn 2026/27. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.

 

Mae’r diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn effeithio ar tua un o bob pump o ddisgyblion. Roedd y system 'Anghenion Addysgol Arbennig' (AAA) bresennol yn destun adolygiad ac yn cynnig diwygiad am dros ddegawd tan Ddeddf 2018. Roedd y system AAA bresennol yn rhagnodi system tair haen. O dan Ddeddf 2018, rhoddir Cynllun Datblygu Unigol statudol i bob dysgwr ag ADY yn nodi ei anghenion a pha ymyriadau sydd eu hangen arno. Mae’r trefniadau newydd yn cael eu cyflwyno fesul cam dros gyfnod o dair blynedd rhwng mis Medi 2021 a mis Gorffennaf 2024. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.

 

Mae’r diwygiadau i’r cwricwlwm ac ADY fel ei gilydd yn rhaglenni heriol ac uchelgeisiol at ddibenion newid, ar gyfer system addysg sydd wedi wynebu’r dasg o reoli’r pandemig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae lefelau’r cyllid sydd ar gael i ysgolion – a hyd a lled y dysgu a’r hyfforddiant proffesiynol sydd eu hangen ar y gweithlu – yn faterion sydd wedi’u nodi’n gyson fel rhai hanfodol i’w gweithredu’n llwyddiannus.

 

Cylch gorchwyl

Bydd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar:

>>>> 

>>>Weithredu’r Cwricwlwm i Gymru mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

>>>Lefel cysondeb a thegwch y cyfleoedd dysgu i ddisgyblion ledled Cymru, o ystyried yr hyblygrwydd sydd i ysgolion ddatblygu eu cwricwla eu hunain o fewn fframwaith cenedlaethol.

>>>Diwygio cymwysterau i gyd-fynd â'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

>>>Gweithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd a throsglwyddo dysgwyr yn effeithiol o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) bresennol.

>>>Cymhwyso'r diffiniad o ADY, o'i gymharu â’r diffiniad ar hyn o bryd ar gyfer AAA, ac a oes unrhyw achos o 'godi'r bar' o ran pennu cymhwysedd ar gyfer darpariaeth.

>>>Yr hyn y mae’r lleoliadau dysgu proffesiynol a chymorth eraill yn ei dderbyn er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y Cwricwlwm i Gymru a’r system ADY.

>>>Ffactorau eraill a allai, o bosibl, effeithio ar weithrediad y Cwricwlwm i Gymru a’r system ADY, er enghraifft lefelau cyllid a’r hyn a gododd yn sgil y pandemig.

>>>Yr heriau a’r cyfleoedd penodol sy’n dod i ran gwahanol fathau o ysgolion mewn amgylchiadau amrywiol (e.e. cyfrwng iaith, demograffeg ac ardal) o ran gweithredu diwygio’r cwricwlwm ac ADY.

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

Bydd y Pwyllgor yn trefnu bod cyfnodau monitro byr, â ffocws, thematig yn digwydd drwy gydol y Chweched Senedd. Bydd pob cyfnod monitro yn cynnwys gweithgareddau ymgysylltu (e.e. ymweliadau ag ysgolion i siarad â staff, disgyblion a rhieni) a chraffu ar waith un o Weinidogion Llywodraeth Cymru.

 

Gellir pennu ffocws pob ymchwiliad fesul achos. Mae ffocws pob cyfnod monitro yn debygol o gael ei bennu gan y canlynol:

>>>> 

>>>cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y broses weithredu ac unrhyw wybodaeth gyd-destunol arall a amlygwyd gan staff ymchwil a rhanddeiliaid;

>>>unrhyw beth a ddysgwyd o’r cyfnodau monitro blaenorol;

>>>unrhyw faterion sy’n deillio o’r ymgynghoriad agored; ac

>>>unrhyw bryderon neu feysydd eraill sydd o ddiddordeb i’r Aelodau ar y pryd.

<<< 

 

Ar sail cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu'r diwygiadau, bwriada’r Pwyllgor i’r cyfnodau hyn ddigwydd unwaith neu ddwywaith y flwyddyn.

 

 

¬¬¬Trydyedd 'Cyfnod monitro'– Ebrill/Mai 2023

 

Yn y cyfarfod ar 14 Rhagfyr, cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu ar gyfer y cyfnod nesaf, a gynhelir rhwng mis Mawrth a mis Mai 2024. Bydd hon yn canolbwyntio ar ddiwygiadau ADY.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, caiff tystiolaeth ei chasglu drwy sesiynau tystiolaeth lafar, ymweliadau ag ysgolion ac ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad. Mae rhagor o wybodaeth ar dudalen yr ymgynghoriad am sut i gyflwyno ymateb. Bydd y Pwyllgor hefyd yn defnyddio'r dystiolaeth a gesglir fel rhan o'i waith wrth edrych ar fynediad plant a phobl ifanc anabl at addysg a gofal plant.

 

zzz

 

¬¬¬ Ail 'Gyfnod monitro'– Ebrill/Mai 2023

 

Dechreuodd ail gyfnod monitro’r Pwyllgor ar ddechrau tymor yr haf 2023. Prif ffocws y cyfnod hwn oedd cyflwyno diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion uwchradd, a chyflwyno’r cwricwlwm newydd i ysgolion uwchradd a’i mabwysiadodd ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 yn y flwyddyn academaidd 2022-2023.

 

Bu’r Pwyllgor yn ymweld ag ysgolion ac yn cynnal sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Cynhaliodd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd waith gyda staff ysgolion, ac mae adroddiad sy’n crynhoi’r hyn a ddeilliodd o’r sesiynau hyn wed’i gyhoeddi (PDF 270KB)

 

Yn dilyn y sesiwn graffu gyda’r Gweinidog, ysgrifennodd y Pwyllgor at Llywodraeth Cymru (PDF 242KB), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (PDF 162KB), a Chydffederasiwn GIG Cymru (PDF 156KB). Rydym wedi cael ymateb gan Lywodraeth Cymru (PDF 357KB) a Chonffederasiwn GIG Cymru (PDF 502KB) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (PDF 306KB).

 

>>>> 

>>>Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gomisiynydd Plant Cymru (Saesneg yn unig) - 31 Gorffennaf 2023 (PDF 408KB)

>>>Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at Weinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol (Saesneg yn unig) – 30 Mehefin 2023 (PDF 408KB)

>>>Llythyr gan Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru – 28 Mehefin 2023 (PDF 184KB)

>>>Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg – 13 Mehefin 2023 (PDF 193KB)

>>>Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 27 Ebrill 2023 (PDF 645KB)

>>>Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Prif Swyddog Gweithredol, Cymwysterau Cymru - 23 Mawrth 2023 (PDF 206KB)

>>>Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y sector Addysg Uwch - 22 Mawrth 2023 (PDF 183KB)

>>>Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd Prifysgolion Cymru - 22 Mawrth 2023 (PDF 183KB)

>>>Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru - 22 Mawrth 2023 (PDF 183KB)

>>>Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd Colegau Cymru - 22 Mawrth 2023 (PDF 183KB)

<<< 

 

zzz

 

¬¬¬‘Cyfnod monitro’ cgyntaf – Gorffennaf/Medi 2022

 

Dechreuodd cyfnod monitro cyntaf y Pwyllgor yn ystod yr haf, a oedd yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion a sesiwn graffu gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Arweiniodd hyn at lythyr (PDF 183KB) at y Gweinidog ynghylch nifer y dysgwyr sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd fel rhai ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), sy’n cael eu nodi fel bod ag ADY a'u trosglwyddo i'r system ADY newydd. Ymatebodd (PDF 142KB) Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau bod y diffiniad o ADY bellach yn cael ei ddefnyddio'n fwy trylwyr nag oedd AAA yn y gorffennol.

 

Mae'r erthygl hon gan Ymchwil y Senedd yn crynhoi'r ohebiaeth a'r materion a godwyd.

 

>>>> 

>>>Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 28 Medi 2022 (PDF 182KB)

<<< 

 

zzz

 

 

Ymgynghoriad

 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb naill ai yn y cwricwlwm newydd neu'r diwygiadau ADY - fel addysgwyr, rhanddeiliaid, disgyblion neu rieni - gyflwyno eu barn ar unrhyw elfen o gyflwyno'r diwygiadau addysg ar unrhyw adeg o’u taith pan gânt eu gweithredu. Mae croeso i chi gyflwyno cymaint o ymatebion ag y dymunwch, mor rheolaidd ag y dymunwch. Byddant i gyd yn cyfrannu at benderfyniadau'r Pwyllgor ynghylch sut i ganolbwyntio ei waith craffu.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw diwedd Chweched Senedd Cymru (yn 2026).

 

Mae rhagor o wybodaeth am sut i ymateb i’w chael ar dudalen yr ymgynghoriad.

 

Mae'r Pwyllgor wrthi’n cynnal ymchwiliad i fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac addysg ac i ba raddau y mae darparwyr gofal plant, ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd tystiolaeth a gyflwynir i'r ymchwiliad hwn sy'n ymwneud â'r system ADY hefyd yn cael ei thrafod fel rhan o'r ymchwiliad I fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac addysg.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/05/2022

Ymgynghoriadau