Absenoldebau disgyblion o’r ysgol
Inquiry3
Mae'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad byr i absenoldeb
disgyblion o’r ysgol.
Cefndir yr ymchwiliad
Nodwyd materion yn ymwneud ag absenoldebau disgyblion o’r
ysgol a’r effaith ar ddysgu a llesiant ehangach plant a phobl ifanc gyda’r
Pwyllgor yn ystod gwaith craffu blynyddol ar Estyn ym mis Rhagfyr 2021. O
ganlyniad i’r sesiwn hon, ysgrifennodd
y Pwyllgor i bob awdurdod lleol ofyn am wybodaeth am sut maent yn gweithio
gydag ysgolion i fonitro a gwella presenoldeb; ac ar gyfer unrhyw ddata sydd
ganddynt ar niferoedd a chyfraddau absenoldeb. Gellir gweld yr holl ymatebion a gafwyd o dan y pennawd
dogfennau isod.
Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 31 Mawrth, cytunodd y Pwyllgor
i gynnal ymchwiliad byr â ffocws i bresenoldeb disgyblion.
Ysgrifennodd y Pwyllgor at Weinidog y Gymraeg ac Addysg
yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad y mae wedi'i gomisiynu ar
batrymau presenoldeb. Daeth ymateb
i law ar 25 Ebrill.
Cylch Gorchwyl
Bydd yr
ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar absenoldebau disgyblion sydd wedi’u cofrestru
mewn ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion. Bydd yr ymchwiliad yn
ystyried yn benodol:
- Lefelau
absenoldeb cyson a’r rhesymau dros hynny
- P’un a yw
absenoldebau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID yn uwch nag yr oeddent cyn
pandemig COVID 19, ac os felly, pam
- P’un a yw
absenoldeb cyson yn fwy cyffredin ymhlith grwpiau penodol o ddisgyblion (y
rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol
am ddim, bechgyn a merched, grwpiau oedran penodol, ethnigrwydd) ac os felly,
y rhesymau dros hynny
- Y risgiau a’r canlyniadau tymor byr a thymor hwy i
ddysgwyr, er enghraifft o ran iechyd meddwl a llesiant
- Yr effaith ar ddysgu a chyrhaeddiad disgyblion
- A yw absenoldeb wedi arwain at lefel uwch o
ddadgofrestru disgyblion ac unrhyw orgyffwrdd ag addysg ddewisol yn y
cartref
- Effeithiolrwydd polisïau a chanllawiau presennol
Llywodraeth Cymru
- Lefel ac effeithiolrwydd gweithredu a chymorth gan
ysgolion, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru
- Pa mor effeithiol y caiff rhieni gymorth a’u cynnwys
Casglu
tystiolaeth
Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth ym mis Mai a mis Mehefin 2022. Ceir rhagor o wybodaeth
am y sesiynau tystiolaeth o dan y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.
Ymgynghoriad
Lansiodd
y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 09 Mai 2022. Daeth yr
ymgynghoriad i ben ar 20 Mehefin 2022. Mae'r holl ymatebion wedi'u cyhoeddi.
Yn
ogystal â'r ymgynghoriad ar-lein, cynhaliodd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y
Pwyllgor 5 o grŵp ffocws a 7 cyfweliad rhwng 24 Mai a 9 Mehefin gydag
amrywiaeth o rieni, pobl ifanc a rhai staff mewn gwahanol rannau o Gymru.
Rhoddodd un unigolyn ac un grŵp sylwadau drwy e-bost hefyd. Lluniwyd crynodeb
o'r themâu sy'n dod i'r amlwg.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2022
Dogfennau
- Absenoldeb disgyblion - Canfyddiadau gwaith ymgysylltu
PDF 265 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (Saesneg yn unig)
PDF 333 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Saesneg yn unig)
PDF 124 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Sir Caerfyrddin (Saesneg yn unig)
PDF 123 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Sir Powys (Saesneg yn unig)
PDF 348 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bro Morgannwg (Saesneg yn unig)
PDF 431 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Sir Ceredigion
PDF 620 KB
- Cyfyngedig View reasons restricted
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Sir Ynys Môn
PDF 225 KB
- Cyfyngedig View reasons restricted
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Saesneg yn unig)
PDF 183 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Sir Ddinbych (Saesneg yn unig)
PDF 197 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Rhondda Cynon Taf (Saesneg yn unig)
PDF 691 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Abertawe (Saesneg yn unig)
PDF 290 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Dinas Casnewydd (Saesneg yn unig)
PDF 250 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Saesneg yn unig)
PDF 210 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Gwynedd
PDF 139 KB
- Cyfyngedig View reasons restricted
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Caerdydd (Saesneg yn unig)
PDF 280 KB
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 25 Ebrill 2022
PDF 1 MB
Ymgynghoriadau
- Absenoldeb Disgyblion (Wedi ei gyflawni)