Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelwch Ar-lein

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelwch Ar-lein

Cyflwynwyd y Bil Diogelwch Ar-lein (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 17 Mawrth 2022.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai diben y Bil yw “gwneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio gan OFCOM ar rai gwasanaethau rhyngrwyd ac mewn perthynas â hyn; ar gyfer troseddau cyfathrebu ac mewn perthynas â hwy; ac at ddibenion cysylltiedig”.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Mehefin 2023

 

Ar 1 Mehefin 2023, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 168 KB).

Cytunodd (PDF 39 KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Ar-lein ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 26 Mehefin 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ei adroddiad (PDF 118 KB)ar 19 Mehefin 2023.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 128KB) ar 23 Mehefin 2023. Ymatebodd (PDF 150KB) Llywodraeth Cymru ar 6 Gorffennaf 2023.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Rhagfyr 2022

 

Ar 21 Rhagfyr 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 163 KB).

 

Cytunodd (PDF 40.6 KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Ar-lein ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 2 Mawrth 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 161KB) ar 27 Ionawr 2023. Ymatebodd (PDF 145KB) Llywodraeth Cymru ar 20 Chwefror 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ei adroddiad (PDF 142 KB) ar 13 Chwefror 2023.

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Tachwedd 2022

Ar 28 Medi 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 126 KB)

 

Cytunodd (PDF 38.1 KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Ar-lein ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 16 Chwefor 2023


Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 161KB) ar 27 Ionawr 2023. Ymatebodd (PDF 145KB) Llywodraeth Cymru ar 20 Chwefror 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ei adroddiad  ar 13 Chwefror 2023

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Medi 2022

Ar 28 Medi 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 136KB)

Cytunodd (PDF 47.9 KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Ar-lein ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 8 Rhagfyr 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ei adroddiad  (PDF 153 KB) ar 1 Rhagfyr 2022. Ymatebodd (PDF 154KB) Llywodraeth Cymru ar 15 Rhagfyr 2022.
 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 130KB) ar 19 Rhagfyr 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 18 Ionawr 2023.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mawrth 2022

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 81.8KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 30 Mawrth 2022.

 

Cytunodd (PDF 40.5KB) y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau, ac i gyflwyno adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 21 Gorffennaf 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ei adroddiad (PDF 147KB) ar 24 Mehefin 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 22 Gorffennaf 2022

 

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 128KB) ar 28 Mehefin 2022. Ymatebodd (PDF 154KB) Llywodraeth Cymru ar 27 Gorffennaf 2022.


Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/03/2022

Dogfennau