P-06-1273 Lleihau amseroedd amser am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr
P-06-1273 Lleihau amseroedd amser am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Christopher Evans, ar ôl
casglu cyfanswm o 262 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Roedd yn rhaid i fy nhad aros 13 awr ar ôl cael strôc
ddifrifol. Rhan o’r broblem oedd bod ambiwlansys yn cael eu dal yn ôl yr
adrannau Damweiniau ac Achosion Brys am oriau lawer yn aros i drosglwyddo
cleifion. Mae’r broblem wedi’i briodoli i brinder gwelyau a staff. Oherwydd bod
fy nhad wedi gorfod aros cyhyd, mae’r siawns y bydd yn gwella yn llai.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Roedd hon yn eitem newyddion ar BBC Wales Today, BBC
radio Wales a gwefan BBC Wales. Cafodd adran newyddion y BBC gadarnhad gan
Wasanaeth Ambiwlans Cymru fod yr amseroedd yn gywir, ac maent wedi ymddiheuro.
Rwy’n aros i’w gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth logio galwadau ymateb.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 21/11/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac oherwydd yr ymchwiliad
manwl a'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion mewn
egwyddor, cytunodd yr Aelodau fod llawer o'r materion a godwyd yn y ddeiseb a'r
sylwadau dilynol wedi'u nodi a chael sylw. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn.
Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw'r
deisebydd at ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/05/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Cwm Cynon
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2022